Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig  

 

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 20 Tachwedd 2019

 

Cyflwyniad

 

Lansiodd Llywodraeth Cymru Raglen o’r Newydd ar gyfer Dileu TB buchol ym mis Hydref 2017. Tua’r un cyfnod, adroddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar TB buchol. Credaf fod cynnydd da wedi’i wneud wrth weithredu a chyflawni ein dull diwygiedig ac o ran argymhellion y Pwyllgor hefyd a oedd y cyd-fynd yn gyfan gwbl â’n gweledigaeth ar gyfer dileu.

 

Ym mis Ebrill, adroddais i’r Cynulliad ar y cynnydd a wnaed yn ystod blwyddyn galendr gyntaf gweithredu’r cynllun. Roedd fy Natganiad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r clefyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn y camau a amlinellwyd yn y Cynllun Cyflenwi TB, ynghyd â pholisïau newydd, fel y rhai a gychwynnwyd yn Ardal TB Canolradd (Gogledd) mewn ymateb i gynnydd parhaus mewn achosion newydd o TB. Nodais welliannau pellach i’w hystyried hefyd, fel ceisio lleihau nifer y gwartheg sy’n cael eu saethu ar y fferm, ac adolygu trefniadau iawndal TB.

 

Darlun o’r clefyd

 

Adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, mae’r ffigurau TB diweddaraf yn cwmpasu’r deuddeg mis hyd at fis Mehefin 2019.

 

1.    Mae nifer yr achosion newydd o TB mewn buchesau wedi parhau’n sefydlog o gymharu â’r deuddeg mis blaenorol, fodd bynnag, mae nifer y digwyddiadau agored wedi cynyddu 6% (Atodiad 2- Ffigur 1). Mae cynnydd wedi bod yn y gwaith monitro mewn achosion heb eu cadarnhau a phrofion mwy sensitif mewn buchesau sydd ag achosion parhaus wedi golygu bod buchesau dan gyfyngiadau am gyfnod hirach.

2.    Mae nifer yr achosion newydd mewn buchesau fesul 100 prawf mewn buchesau heb gyfyngiadau (digwyddiadau) rhwng Gorffennaf 2018 a Mehefin 2019 wedi parhau’n sefydlog o gymharu â’r deuddeg mis blaenorol.

3.    Mae nifer y buchesau dan gyfyngiadau fesul 100 buches fyw (nifer y buchesi dan gyfyngiadau) wedi cynyddu ychydig llai na 2% (Atodiad 2- Ffigur 2).

4.    Mae nifer yr anifeiliaid a gafodd eu lladd at ddibenion rheoli TB wedi cynyddu 23% yn ystod y deuddeg mis diwethaf o gymharu â’r deuddeg mis blaenorol. Gellir priodoli’r cynnydd hwn (55%) i raddau helaeth i gynnydd mewn profion gama er mwyn cynyddu sensitifrwydd y profion mewn buchesau sydd ag achosion parhaus. Gwelwyd cynnydd yn nifer yr adweithyddion croen (23%) ac adweithyddion amhendant ar y cynnig cyntaf a chysylltiadau peryglus (18%) (Atodiad 2- Ffigur 3). Y prif reswm am hyn yw cynnydd mewn monitro a sensitifrwydd y profion yn hytrach na chynnydd yn yr epidemig.

 

Dylid dehongli tueddiadau diweddar yn ofalus ac yng nghyd-destun y trywydd tymor hir a’r gwelliannau parhaus a gyflawnwyd dros y deng mlynedd ddiwethaf.

 

Cynnydd yn erbyn cerrig milltir a thargedau dileu   

 

Roedd datganiad polisi Targedau a Cherrig Milltir Cymru 2017 ar gyfer Dileu yn egluro’r targed cyffredinol ar gyfer cyrraedd sefyllfa lle nad oes TB yng Nghymru erbyn 2041 ac yn diffinio nifer o gerrig milltir rhanbarthol tuag at ddileu TB. Mae’r cyfnod 24 mlynedd cyfan sy’n arwain at y dyddiad dileu wedi’i rannu’n bedwar cyfnod chwe blynedd sydd hefyd yn gyfnodau adolygu. Bydd cyfnodau adolygu eraill, byrrach, yn cael eu hystyried yn ôl yr angen. Roedd y cynllun yn seiliedig ar rannu Cymru’n ddaearyddol yn Unedau Gofodol ac Ardaloedd TB, yn hytrach na siroedd gweinyddol.

 

Mae tueddiadau blynyddol o achosion mewn buchesi yn cael eu cymharu â’r trywydd sydd angen ei ddilyn er mwyn dileu neu gyflawni cerrig milltir a nodwyd ar gyfer y chwarter cyntaf (2017-23) yn y cynllun dileu. Yna gellir clustnodi unedau gofodol i’w trosglwyddo i ddynodiad risg is. O ystyried tystiolaeth gyfredol, mae dau (CE4, CL3) o dri tharged trosglwyddo’r Uned Ofodol wedi dangos bod tueddiadau’r achosion yn cyd-fynd â throsglwyddo i ddynodiad risg is. Fodd bynnag, nid yw Uned Ofodol PN1 yn edrych fel petai’n debygol o fodloni’r trothwy sy’n ofynnol yn y chwarter cyfredol hwn (Atodiad 2 - Ffigur 4). Gellir trosglwyddo o leiaf un Uned Ofodol bellach (PS1) o’r Ardal TB Uchel (Dwyrain) i’r Ardal TB Canolradd (Canolbarth). O ystyried tystiolaeth y deunaw mis diwethaf, mae achosion mewn buchesi 15% yn is na’r chwe blynedd blaenorol. 

 

Atal y clefyd a rheoli buchesi sydd wedi’u heintio  

 

·         Rhanbarthau TB Cymru

 

Cychwynnodd newid sylfaenol yn y ffordd rydym yn mynd i’r afael â TB buchol yng Nghymru ym mis Hydref 2017, wrth gyflwyno dull rhanbarthol o ddileu TB. Arweiniodd y newid sylweddol hwn at rannu Cymru yn bum Ardal TB yn seiliedig ar dair lefel o achosion o’r clefyd: Ardal TB Isel, dwy Ardal TB Canolradd a dwy Ardal TB Uchel. Mae’r dull hwn yn sicrhau y gellir gweithredu polisïau pwrpasol ym mhob Ardal TB er mwyn adlewyrchu’r epidemioleg amrywiol a’r hyn sy’n achosi’r clefyd sy’n benodol i bob ardal ac sy’n sicrhau y gellir canolbwyntio ar flaenoriaethau rhanbarthol, er enghraifft cadw TB allan o Ardal TB Isel.

 

·         Buchesi ag achosion parhaus o TB

 

Rydym yn parhau i ddysgu gwersi o roi Cynlluniau Gweithredu pwrpasol ar waith mewn buchesi ag achosion parhaus o TB, sy’n para deunaw mis neu ragor. Mae polisïau Cynlluniau Gweithredu’n destun monitro ac adolygu parhaus gan epidemiolegwyr a milfeddygon er mwyn sicrhau bod y dull cywir yn cael ei ddefnyddio i ddiddymu TB yn yr achosion TB hirsefydlog hyn. Rydym yn parhau i fireinio ein dulliau er mwyn sicrhau bod polisïau’n cyd-fynd yn briodol â’r risgiau, ac yn gymesur hefyd â sefyllfa’r clefyd ar bob fferm.

 

Ers cychwyn polisi ymyrraeth y Cynllun Gweithredu, mae cyfyngiadau wedi cael eu codi mewn 38 o fuchesi ag achosion parhaus a oedd â Chynlluniau Gweithredu. Mae’r clefyd wedi dychwelyd mewn 12 o’r rhain (8/21 yn Ardal TB Uchel (Gorllewin); 3/14 yn Ardal TB Uchel (Dwyrain, 1/2 yn Ardal TB Canolradd (Canolbarth). Mae’r cyfraddau ail-heintio hyn yn is o gymharu â buchesi tebyg sydd heb gynlluniau gweithredu. Mae buchesi ag achosion parhaus o TB sydd wedi’u datrys ac a oedd â chynlluniau gweithredu wedi gweld cyfraddau is o achosion o gymharu ag achosion caeedig eraill yn yr Ardal TB Uchel. Mae hyn yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd wrth ddileu’r clefyd yn rhai o’r achosion mwyaf cymhleth o TB.

 

·         Prynu ar sail gwybodaeth

 

Rydym yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd gwneud penderfyniadau doeth wrth brynu, ac yn annog pobl i wneud cais gwirfoddol am hanes TB wrth ddewis gwartheg ar hyn o bryd. Fodd bynnag, oherwydd y gellir priodoli 8 o bob 10 achos mewn Ardal TB Isel a 3 o bob 10 mewn Ardal TB Uchel i anifeiliaid sydd wedi’u prynu, mae’n amlwg nad yw dull gwirfoddol yn gweithio. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn technoleg er mwyn galluogi ffermwyr i gael gwybodaeth am TB fel y gall hynny fod yn sail i’w penderfyniadau wrth brynu, drwy ddatblygu gwefan ibTB, ac ochr yn ochr â Defra, mae Llywodraeth Cymru’n datblygu cynigion ar gyfer system orfodol. Bydd ymgynghoriad a newidiadau deddfwriaethol yn ofynnol unwaith y bydd cynigion clir wedi cael eu datblygu.

 

·         Cymorth TB

 

O fis Medi 2019 ymlaen, bydd unrhyw ffermwr sy’n gymwys ar gyfer Cymorth TB yn derbyn hynny, oni bai ei fod yn dewis peidio â derbyn y cynnig.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod effeithiau TB ar deuluoedd a busnesau ffermio. Mae’r Rhwydwaith Cymuned Ffermio wedi dechrau datblygu cyngor, cymorth a gwasanaeth cyfeirio i ffermwyr, fodd bynnag, nid oes llawer wedi manteisio arno. Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae fy swyddogion yn gweithio ar draws adrannau ac yn cydweithio â’r Trydydd Sector i ystyried darparu gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant ar draws yr holl sector amaethyddol ar gyfer ffermwyr Cymru, gan ganolbwyntio ar fwy na TB yn unig.

 

·         Lladd adweithyddion TB ar ffermydd

 

Rydw i wedi gwrando ar bryderon a godwyd yn y diwydiant yn ymwneud agweddau ar ladd anifeiliaid ar ffermydd. Weithiau ni ellir osgoi lladd anifeiliaid ar ffermydd, er enghraifft pan na ellir cludo gwartheg oherwydd eu bod yng nghyfnod olaf beichiogrwydd, am resymau lles neu oherwydd eu bod mewn cyfnod pan fo’u meddyginiaeth wedi’i atal ac felly ni allant ymuno â’r gadwyn fwyd. 

 

Rydym yn cydweithio â’r diwydiant a’r proffesiwn milfeddygol i ymchwilio i opsiynau i leihau nifer y gwartheg sydd â TB sydd angen eu lladd ar ffermydd. Bydd rhaglen beilot sy’n cychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf yn galluogi ffermwyr i ofyn am ewthanasia ar y fferm ar ffurf pigiad marwol dan rai amgylchiadau. 

 

·         Ehangu portffolio profion diagnostig.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r defnydd o brofion gwaed ategol i wella dulliau canfod gwartheg sydd wedi’u heintio â TB. Y llynedd cynhaliwyd 57,000 o brofion gama interfferon, ddwywaith cymaint â thair blynedd ynghynt. Os tybir bod achosion o’r clefyd Johne yn cyd-redeg gall hynny leihau sensitifrwydd y profion, felly defnyddir prawf gama interfferon hyblyg estynedig. Mewn buchesi ag achosion parhaus o TB, mae’r prawf gwrthgyrff IDEXX yn cael ei ddefnyddio hefyd i dargedu anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn ymateb i’r profion croen neu’r profion gama interfferon o reidrwydd.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu a chyflwyno protocol ar gyfer defnyddio profion TB heb eu dilysu mewn buchesi ag achosion o TB. Er enghraifft, mae Actiphage, prawf diagnostig sy’n adnabod presenoldeb bacteria TB mewn gwaed neu Brawf Adwaith Cadwynol Polymerasau (PCR) sy’n gallu adnabod DNA bacterol mewn samplau amgylcheddol. Ei nod yw cefnogi’r broses o ddatblygu profion a galluogi perchnogion gwartheg a’u milfeddygon eu hunain i gael gwybodaeth ychwanegol am statws haint posibl yr anifeiliaid yn eu buchesi. 

 

Bywyd Gwyllt:

 

·         Ymyraethau Moch Daear 

 

Mewn rhai buchesi ag achosion o TB lle credir bod y clefyd yn cael ei drosglwyddo o foch daear i wartheg ar y fferm ac yn cyfrannu at achosion parhaus o’r clefyd defnyddir y trap moch daear a phrofion gyda chaniatâd tirfeddianwyr ar ffermydd sy’n bodloni’r meini prawf a osodwyd. 

 

Mae’r adroddiad APHA diweddaraf ar y broses o ddarparu trap moch daear a phrofion ar achosion cronig o TB mewn ffermydd yng Nghymru yn 2018 wedi’i gyhoeddi erbyn hyn https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-07/bovine-tb-badger-trapping-and-testing-on-chronic-tb-breakdown-farms-2018.pdf

 

Rhoddwyd trapiau moch daear a chynhaliwyd profion ar 6 o ffermydd yn 2018, a chafodd cyfanswm o 120 o foch daear unigol eu dal a chymerwyd sampl ganddynt. Gosodwyd trapiau moch daear mewn dau gam ar dair o’r ffermydd. Felly roedd rhai moch daear wedi eu dal a’u samplo fwy nag unwaith, gan arwain at 165 o ddigwyddiadau samplo yn 2018. Arweiniodd y 165 o ddigwyddiadau samplo at ewthanasia 26 o anifeiliaid; 22 oherwydd canlyniad positif i brawf DPP a phedwar a oedd wedi’u dal yn flaenorol a’u rhyddhau ond wedyn wedi profi’n bositif yn y labordy.

                                                                                                                              

Ar 139 achlysur cafodd yr anifail ei ryddhau (roedd 137 wedi profi’n negatif i’r prawf DPP, ac nid oedd modd profi dau oherwydd nad oedd yn bosibl cael sampl gwaed). O’r 137 achlysur a arweiniodd at ganlyniadau negatif, cafodd 112 o foch daear eu brechu cyn eu rhyddhau. O’r 25 achlysur sy’n weddill, roedd y moch daear wedi cael eu brechu mewn digwyddiad samplo blaenorol a’u rhyddhau heb gamau pellach.

 

·         Arolwg o Foch Daear Marw

 

Rydym yn parhau â’r Arolwg o Foch Daear Marw ac mae’r canlyniadau’n cael eu hychwanegu at y rhaglen ehangach. Yn Ardal TB Isel (Gogledd), mae ffigurau’r Arolwg o Foch Daear Marw’n awgrymu nad yw moch daear yn cyfrannu at y clefyd.  

 

·         Y wybodaeth ddiweddaraf am frechu

 

Mae Grant Brechu Moch Daear ar gael i roi cyfle i ffermwyr, tirfeddianwyr a sefydliadau eraill i wneud cais am gymorth ariannol (hyd at 50%) tuag at frechu moch daear yn erbyn TB buchol, dros bum mlynedd.

 

Ers dechrau mis Mai eleni (2019) mae’r grant wedi caniatáu i 185 o foch daear gael eu brechu dros ardal o 30.722km.

 

·         Prosiect Gŵyr

 

Mae Llywodraeth Cymru’n cydweithio â Bwrdd Dileu TB Rhanbarth y De-ddwyrain sy’n cyflwyno rhaglen o frechu moch daear ym Mhenrhyn Gŵyr ar hyn o bryd. Mae’n enghraifft wych o gydweithredu rhwng ffermwyr, milfeddygfeydd lleol, tîm ymchwil, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae yna gynlluniau i gyflwyno gwell mesurau bioddiogelwch a rheoli gwartheg hefyd sydd, law yn llaw a’r gwaith o frechu moch daear, â’r nod o ostwng lefelau’r haint gan leihau nifer yr achosion o TB mewn gwartheg yn yr ardal. Yna gellir ychwanegu’r gwersi a ddysgwyd i’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen ddileu genedlaethol ymhellach.

 

 

Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg  

 

Mae Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg newydd Sêr Cymru wedi agor ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2018. Bydd y Ganolfan yn dwyn ynghyd arbenigedd rhyngwladol gyda’r nod o ddileu’r clefyd gwartheg. Nod y Ganolfan yw ehangu a datblygu arbenigedd ymchwil academaidd yng Nghymru.  

 

Arweinydd y Ganolfan yw’r Athro Glyn Hewinson sydd â chysylltiadau cryf â Llywodraeth Cymru eisoes drwy ei rolau blaenorol gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Yn fwyaf diweddar, fe wnaeth y Ganolfan gynnal ei Chynhadledd TB gyntaf a oedd yn canolbwyntio ar brofion TB cyfredol a rhai’r dyfodol i’w defnyddio ar wartheg ac yn yr amgylchedd. 

 

 

 

Lesley Griffiths AC

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

 

Tachwedd 2019

 

 

 

 

Atodiad 1

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ar y Rhaglen o’r Newydd ar gyfer Dileu TB.

 

 

Argymhelliad 1

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru bennu dyddiad targed cenedlaethol i Gymru fod yn swyddogol glir o TB ac egluro’r broses ar gyfer cyflawni hyn.

 

Argymhelliad 2

 

Dylai Llywodraeth Cymru bennu targedau interim ar gyfer dileu’r clefyd ym mhob un o’r tri rhanbarth TB – uchel, canolradd ac isel.

 

Ymateb i 1 a 2

 

Ym mis Hydref 2017 cyflwynodd y rhaglen i ddileu TB yng Nghymru ddull gweithredu rhanbarthol gan ddiffinio Ardaloedd TB Isel, Canolradd ac Uchel sy’n galluogi ymyriadau ar sail sefyllfa’r clefyd mewn ardaloedd penodol. Yn yr un modd â llawer o agweddau eraill ar y rhaglen, mae effaith y dull gweithredu hwn a’r ymyriadau sy’n cyfrannu ato yn cael eu monitro, a bydd datblygiad parhaus y rhaglen yn cael ei lywio gan yr hyn sy’n cael ei ddysgu o’r canlyniadau. 

 

Mae’r dull gweithredu hwn ar sail rhanbarthau wedi’i adlewyrchu yn y targedau TB a fabwysiadwyd ym mis Rhagfyr 2017. Nod y fenter uchelgeisiol hon yw dileu TB yn swyddogol yng Nghymru erbyn 2041. Mae targedau interim ar gyfer cyfnodau chwe blynedd dilynol wedi’u pennu ar gyfer pob un o’r Ardaloedd TB. Mae’r dull gweithredu hwn yn darparu ar gyfer dileu TB a pharhau i fod â statws heb TB mewn ardaloedd diffiniedig ar adegau gwahanol, gan geisio cynyddu’r ardal sy’n glir o TB yn gyson yng Nghymru a manteisio ar y momentwm a fyddai’n deillio o hyn. 

 

Argymhelliad 3

 

Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio ymhellach i’r risgiau posibl fod TB yn cael ei ledaenu oherwydd cynnydd ym maint buchesi ac arferion rheoli slyri. Drwy gynnwys cyngor ar y ddau fater hyn mewn canllawiau gan Lywodraeth Cymru, gellid gwella’r cymorth a gynigir i ffermwyr wrth ymdrin â’r clefyd hwn.

Mae’r perygl posibl o ledaenu TB trwy ddefnyddio slyri ar dir amaethyddol yn fater proffil uchel, ac mae angen tystiolaeth i lywio datblygiad polisi. Gan weithio gydag Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) Gogledd Iwerddon a’r Adran Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Moroedd (DAFM) yn Iwerddon, mae Defra (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) wedi ariannu astudiaeth i gasglu tystiolaeth yn ymwneud â nifer yr achosion a mynychder M. bovis hyfyw mewn slyri a matricsau tebyg. Dylai canlyniadau’r astudiaeth hon fod yn hysbys tua chanol 2020.

 

Argymhelliad 4

 

Dylai Llywodraeth Cymru gadw golwg ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am brofion TB buchol ac archwilio pob opsiwn ar gyfer cynnal profion effeithiol sy’n gymesur â’r risgiau a nodwyd.

 

Mae’r prawf croen tuberculin yn parhau i fod yn sylfaen i’r rhaglen profi gwartheg. Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y defnydd wedi’i dargedu o’r prawf gama interfferon fel prawf ategol. Yn ddiweddar, mewn buchesi ag achosion parhaus o TB, mae’r prawf gama interfferon estynedig hyblyg a’r prawf Gwrthgorff IDEXX wedi’u defnyddio hefyd i nodi anifeiliaid sydd wedi’u heintio, na fyddai modd eu nodi fel arall o rteidrwydd oherwydd presenoldeb mathau eraill o fycobacteria, neu oherwydd eu bod yn ennyn ymateb imiwn gwrthgorff, yn hytrach na’r ymateb mwy cyffredin trwy gyfrwng celloedd.

Mae’r rhaglen yn parhau i ymgysylltu’n llawn â rhaglen ymchwil a datblygu TB Prydain - Canolfan Ragoriaeth Sêr Cymru ar gyfer TB Buchol, ac â datblygwyr profion unigol er mwyn sicrhau ei bod yn gwneud y defnydd gorau o brofion y dangoswyd yn gadarn eu bod yn cynnig buddion ychwanegol o safbwynt y portffolio profi.

 

Mae defnydd wedi’i dargedu o brofion sy’n addas i amgylchiadau penodol wedi bod yn elfen hanfodol o’r rhaglen i ddileu TB erioed, a bydd hynny’n parhau. Mae’r dull gweithredu ar sail rhanbarthau’n adlewyrchu hyn, gan ddarparu ar gyfer defnyddio cyfuniadau gwahanol o brofion mewn sefyllfaoedd gwahanol o safbwynt y clefyd.

 

 

Argymhelliad 5

 

Cyhyd ag y bo modd, dylai Llywodraeth Cymru gynnwys y diwydiant yn y gwaith o ddatblygu pecyn bioddiogelwch ar-lein er mwyn sicrhau y gall ffermwyr Cymru ddatblygu mesurau penodol i ffermydd a fydd yn ychwanegu gwerth at yr ymdrechion i reoli a dileu’r clefyd.

 

Mae bioddiogelwch wedi bod yn rhan allweddol o’n rhaglen dileu TB erioed. Yn dilyn ymgynghoriad, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn ar-lein safonedig i helpu ffermwyr i weithredu arferion hwsmonaeth a bioddiogelwch gwell. Rydym wrthi’n datblygu ap bioddiogelwch gyda Grŵp Diwydiant ar hyn o bryd. Mae cynlluniau dan arweiniad y diwydiant ar waith i dreialu’r ap ar nifer o ffermydd yng Nghymru gyda’r bwriad o’i gyflwyno’n ehangach yn dilyn profion gyda defnyddwyr. Mae canllawiau ar safonau bioddiogelwch wedi’u datblygu hefyd ac maent ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn ogystal, mae datblygiadau ar waith i wella gwefan bresennol TB Hub yn sylweddol i gynnwys anghenion Cymru, a bydd yn cynnwys amrywiaeth eang o gyngor ar fioddiogelwch.

 

 

 

 

 

 

 

Argymhelliad 6

 

Mae’r Pwyllgor yn cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i annog Prynu Gwybodus, sef Masnachu Seiliedig ar Risg. Dylai system fasnachu seiliedig ar risg gael ei chyflwyno’n wirfoddol i ddechrau yn y diwydiant a’r marchnadoedd da byw. Dylid adolygu’r system yn gyson ac, os bydd angen, dylid ei gwneud yn orfodol.

 

Mae cynlluniau Masnachu Seiliedig ar Risg yn Seland Newydd ac Awstralia wedi gwneud cyfraniad mawr at ddileu TB. Rydym eisoes wedi cynnig cyllid grant i farchnadoedd da byw er mwyn diweddaru eu cyfarpar i arddangos gwybodaeth am TB. Hefyd, rwy’n annog ffermwyr i gofrestru ar gyfer cynllun TB Safonau Ardystio Iechyd Gwartheg (CHeCS) gan y bydd yn helpu prynwyr i leihau’r risg o gyflwyno’r clefyd i’w buchesi. Bydd buchesi sydd wedi’u dosbarthu’n fuchesi â’r risg leiaf yn cael eu heithrio o rai o’n mesurau rheoli TB. Mae’r adnodd mapio ibTB yn fodd defnyddiol i ffermwyr ddeall sefyllfa’r clefyd yn well yn yr ardal lle maent yn prynu eu gwartheg. Mae gwaith yn cael ei wneud i wella’r safle a’i wneud yn adnodd prynu mwy defnyddiol sy’n seiliedig ar wybodaeth. Bydd y dulliau gwirfoddol hyn yn parhau i gael eu hadolygu. Yn yr hirdymor, mae’n debygol mai dim ond trwy gyflwyno system orfodol y bydd modd sicrhau bod gwybodaeth am TB yn cael ei darparu yn y man gwerthu. Felly, rydym yn archwilio dulliau y gellir eu cyflwyno ar y cyd â Defra.

 

 

Argymhelliad 7

 

Rhaid defnyddio dulliau gwyddonol o fonitro ac adolygu cynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen i gael gwared ar foch daear penodol mewn achosion o fuchesi sydd â TB cronig. Rhaid addasu neu atal y rhaglen os nad yw’n rhwystro TB buchol rhag cael ei drosglwyddo o fywyd gwyllt i wartheg. Rhaid i unrhyw fesurau a gymerir fel rhan o gynllun treialu gynnwys ffiniau caled a mesurau digonol i ddiogelu rhag y risg o aflonyddu ar y boblogaeth bywyd gwyllt.

 

Comisiynwyd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i amcangyfrif cyfran y boblogaeth o foch daear a dargedir sy’n cael eu trapio ar bob fferm, a cheisio nodi unrhyw arwyddion o aflonyddu cymdeithasol sy’n deillio o’r ymyriadau hyn ar raddfa fach. Roedd y dewis o ddulliau sydd ar gael wedi’i gyfyngu gan yr angen i gyfyngu’r holl weithgareddau maes i’r fferm a dargedir. O ganlyniad, roedd y broses o gasglu data yn canolbwyntio ar waith genoteipio samplau blew o drapiau blew a moch daear a oedd wedi’u dal ar y tair fferm a oedd yn destun gweithrediadau trapio a phrofi moch daear yn 2017. 

 

Mae’r adroddiad sydd ynghlwm yn nodi’r fethodoleg a ddefnyddiwyd a dadansoddiad o’r canlyniadau. https://llyw.cymru/tb-gwartheg-trapio-phrofi-moch-daear-ar-ffermydd-lle-y-mae-buchesi-ag-achosion-cronig-o-tb-2018

 

 

Roedd y proffiliau genetig wedi’u tynnu’n llwyddiannus o’r rhan fwyaf o’r samplau blew o foch daear a gafodd eu dal, sy’n awgrymu lefel uchel o effeithlonrwydd trapio ar y tair fferm berthnasol, ond nid oedd modd dod i unrhyw gasgliadau yn ymwneud ag aflonyddu cymdeithasol. Y prif reswm am hyn oedd graddfa fach yr ymyriadau. Bydd hynny’n parhau i fod yn her arwyddocaol.

Felly, rydym yn ymwybodol o gyfyngiadau’r dull hwn a'r canlyniadau amhendant a gafwyd, ac rydym yn bwriadu monitro aflonyddu trwy ddefnyddio data ar wartheg. Mae APHA yn casglu gwybodaeth am effeithiolrwydd hirdymor y polisi a’i effaith ar glefyd, ac mae’n bwriadu monitro paramedrau clefyd gwartheg (ar lefel buches a lefel anifail). Bydd yn parhau i gasglu data a gwneud gwaith monitro pan fydd digon o ddata ar gael. Gwneir hyn trwy gymharu buchesi ag achosion â buchesi cymharu. Bydd y data’n cael ei gasglu trwy ddefnyddio systemau presennol APHA, ond unwaith eto nid yw’n hysbys am faint o amser y byddai angen gwneud hyn neu faint o barau y bydd angen eu cymharu. Bydd dilyniannu genomau cyfan arunigion M. bovis o foch daear sydd wedi’u heintio a gwartheg sydd wedi’u heintio yn gwella ein dealltwriaeth o drosglwyddiad yr haint ar y ffermydd.

 

 

Argymhelliad 8

 

Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru baratoi adroddiad i’r Pwyllgor ddeuddeg mis ar ôl i ganlyniadau’r rhaglen i gael gwared ar foch daear penodol ddechrau dod i’r amlwg. Rydym yn disgwyl i ddata Llywodraeth Cymru fod ar gael i’r cyhoedd, er mwyn sicrhau tryloywder yn ei phrosesau gwneud penderfyniadau ac adolygu.

 

Mae adroddiad APHA ar gyflwyno gweithrediadau trapio a phrofi moch daear ar ffermydd yng Nghymru lle cafwyd achosion cronig o TB yn 2018 wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a’i anfon i randdeiliaid perthnasol, gan gynnwys y Pwyllgor. Mae copi ar gael yn y ddolen ganlynol:

https://llyw.cymru/tb-gwartheg-trapio-phrofi-moch-daear-ar-ffermydd-lle-y-mae-buchesi-ag-achosion-cronig-o-tb-2018

 

Mae’n werth nodi bod y gwaith sy’n cael ei wneud i werthuso Ymyriadau ar Lefel Fferm yn cael ei ystyried yn astudiaeth hydredol, ac o ganlyniad mae angen amser i gasglu data a rhoi ystyriaeth bellach cyn penderfynu ar y cyfnod priodol ar gyfer gwaith dilynol.

 

Fel y nodwyd yn argymhelliad 7, mae APHA yn casglu gwybodaeth am effeithiolrwydd hirdymor y polisi a’i effaith ar y clefyd, ac mae’n bwriadu monitro paramedrau clefyd gwartheg (ar lefel buches a lefel anifail). Bydd yn casglu data’n barhaus a gwneud gwaith monitro pan fydd digon o ddata ar gael.

 

Gwneir hyn trwy gymharu buchesi ag achosion â buchesi cymharu. Bydd y data’n cael ei gasglu trwy ddefnyddio systemau presennol APHA, ond unwaith eto nid yw’n hysbys am faint o amser y byddai angen gwneud hyn neu faint o barau y bydd angen eu cymharu. Bydd dilyniannu genomau cyfan arunigion M. bovis o foch daear sydd wedi’u heintio a gwartheg sydd wedi’u heintio yn gwella ein dealltwriaeth o drosglwyddiad yr haint ar y ffermydd.

 

 

 

 

Argymhelliad 9

 

Dylai Llywodraeth Cymru a Defra sicrhau bod y canllawiau sydd ar waith i hwyluso cydweithrediad trawsffiniol yn gadarn, yn enwedig mewn perthynas â mesurau rheoli bywyd gwyllt, gan gynnwys cael gwared ar foch daear a’u difa. Rhaid i Lywodraeth Cymru a Defra adolygu’r canllawiau hyn yn gyson.

 

Derbyniodd y pwyllgor gopi o ganllawiau Defra ar reoli trwyddedau difa moch daear yn Lloegr, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015.

Yn ôl adroddiad Defra ar asesu effeithiau difa moch daear dan arweiniad y diwydiant yn Lloegr ar nifer yr achosion o TB mewn gwartheg 2013 – 2017, ni nodwyd unrhyw effaith niweidiol hirdymor yn y parthau clustogi 2km ar ôl pedair blynedd o reoli moch daear yn Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf ac ar ôl dwy flynedd yn Dorset.

 https://www.nature.com/articles/s41598-019-49957-6

Roedd nifer yr achosion ym mharthau clustogi ymyriadau Swydd Gaerloyw a Dorset yn is nag yn y parthau clustogi cymharol bob blwyddyn ers dechrau difa moch daear. Roedd nifer yr achosion ym mharth clustogi ymyriadau Gwlad yr Haf  yn uwch na’r ardaloedd cymharol yn y flwyddyn gyntaf ar ôl dechrau difa moch daear, ond roedd yn debyg i barthau cymharol ym mlynyddoedd dwy, tair a phedair. 

 

Argymhelliad 10

 

Dylai Llywodraeth Cymru dalu swm rhesymol o iawndal i ffermwyr am wartheg a gaiff eu lladd fel rhan o’r rhaglen i ddileu TB. Dylai’r swm hwn barhau i gael ei adolygu, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

 

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi dechrau’r gwaith o nodi dewisiadau ar gyfer newid y system iawndal ar gyfer TB. Mae’r dewisiadau hyn wedi’u cyflwyno i Fwrdd y Rhaglen TB, a bydd rhai o’r dewisiadau hyn yn cael eu datblygu cyn i ffordd ymlaen arfaethedig gael ei chyflwyno i randdeiliaid fel rhan o broses ymgynghori. Bydd unrhyw newidiadau i’r system iawndal sy’n cael eu gweithredu yn sicrhau bod swm rhesymol o iawndal yn cael ei dalu am wartheg a gaiff eu lladd, o fewn cyfyngiadau cyllidebau presennol. Hefyd, byddai unrhyw system iawndal TB newydd yn ceisio cymell cydymffurfiaeth ac arferion gorau.

 

 

Argymhelliad 11

 

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y cyllid a geir gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ar gyfer profion TB buchol a mesurau eraill, yn cael ei warantu o fewn cyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

 

Rydym wrthi’n trafod â Llywodraeth y DU ar hyn o bryd i sicrhau y bydd y cyllid hwn yn parhau ar ôl Brexit. Rydym yn parhau i drafod elfennau manwl o’r ffrwd gyllido hon â’r Trysorlys.

 

 

 

 

 

Argymhelliad 12

 

Rhaid i Lywodraeth Cymru geisio sicrwydd ar unwaith gan Lywodraeth y DU na fydd statws TB buchol gweddill y DU yn effeithio ar y gallu i barhau i fanteisio ar Farchnad Sengl yr UE. 

 

Er mwyn allforio i’r UE ar ôl Brexit, rydym wedi cefnogi cais Llywodraeth y DU i fod yn drydedd wlad gofrestredig, yn unol â’r sefyllfa ym mis Mawrth, ac fe gawsom ein cymeradwyo ddydd Gwener 11 Hydref (os bydd angen y trefniadau hyn). Yn ystod y bleidlais ddiwethaf, roedd yn ofynnol i Lywodraeth y DU alinio mewn ffordd ddynamig trwy fodloni gofynion deddfwriaeth yr UE ym meysydd iechyd anifeiliaid, llesiant anifeiliaid a diogelwch bwyd anifeiliaid am 9 mis, a dyma’r sefyllfa yn awr hefyd. Gan fod statws trydedd wlad wedi’i sicrhau, nid oes unrhyw reswm i gredu y bydd statws TB y DU yn effeithio ar fynediad i Farchnad Sengl yr UE. Mae’n rhaid i bob busnes sy’n dymuno masnachu â’r UE sicrhau bod ei gynhyrchion yn dod o fferm lle nad oes unrhyw achosion o TB ac nad oes unrhyw gyfyngiadau. Gall y DU allforio i’r UE heb fod ganddi statws heb TB swyddogol, gan fod y Dystysgrif Iechyd Allforio yn nodi bod angen i’r fferm fod â statws heb TB, nid y wlad.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 2

 

Ffigur 1: Cromlin haint TB Cymru Ch1 2009 – Q2 2019

 

Ffynhonnell: Data gwyliadwriaeth APHA ar Medi 2019

 

 

 

 

Ffigur 2: Llinell amser TB wedi’i haddasu Cymru Ch1 2009 – Ch2 2019

 

Ffynhonnell: Data gwyliadwriaeth APHA ar Medi 2019

 

 

 

 

 

 

Ffigur 3 – Anifeiliaid a laddwyd at ddibenion rheoli TB yng Nghymru, Ch1 2009 – Ch2 2019

Ffynhonnell: Data gwyliadwriaeth APHA ar Medi 2019

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 4 – Map Rhanbarthau TB Cymru gyda statws cerrig milltir dileu ar gyfer chwartel cyntaf (2017-23) Cynllun Dileu TB Cymru 

 

 

Ffynhonnell: Data gwyliadwriaeth APHA ar Medi 2019